|
DATGANIAD YSGRIFENEDIG GAN LYWODRAETH CYMRU
|
TEITL |
Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cychwyn Rhif 2) 2024 |
DYDDIAD |
13 Mawrth 2024
|
GAN |
Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol |
|
Deddf Caffael 2023
Mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud Rheoliadau mewn perthynas ag Awdurdodau Datganoledig Cymru.
Diben y Rheoliadau
Diben yr OS hwn yw cychwyn nifer o ddarpariaethau yn Neddf Caffael 2023 er mwyn caniatáu i Weinidogion Cymru osod Rheoliadau cadarnhaol gerbron y Senedd.
Mae Llywodraeth y DU yn gwneud y Rheoliadau Cychwyn hyn. Mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru, yn unol ag adran 127(3) o Ddeddf Caffael 2023, roi caniatâd.
Mae'r Rheoliadau ar gael yma: Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cychwyn Rhif 2) 2024
Bydd Rheoliadau Cychwyn eraill a fydd yn cychwyn darpariaethau eraill yn Neddf Caffael 2023, a byddant yn sefydlu'r darpariaethau trosiannol a fydd yn pennu'r berthynas rhwng y cyfundrefnau caffael presennol a newydd. Bydd y Rheoliadau Cychwyn hyn hefyd yn gofyn am gydsyniad Gweinidogion Cymru.
Materion o ddiddordeb arbennig i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
Ni nodwyd unrhyw faterion o'r fath.
Mae'r Rheoliadau hyn yn cychwyn nifer o ddarpariaethau yn Neddf Caffael 2023. Dim ond Gweinidog y Goron sydd â phwerau cychwyn o fewn y Ddeddf. Mae angen i Weinidogion Cymru gydsynio i'r Rheoliadau Cychwyn hyn i ganiatáu i reoliadau cadarnhaol gael eu gosod gerbron y Senedd.